Welsh Language Officer

Meet your Welsh Language Officer 

Name: Ceri Ellen-Speddy

Studying: Theatre and Television Production

Email me: WelshOfficer@mail.glyndwr.ac.uk 

Fi yw eich Swyddog Cymraeg ar Cyngor Myfyrwyr y Brifysgol. 

Fel geneth o deulu Cymraeg iaith gyntaf rwy’n teimlo’n gryf am hawliau myfyrwyr i ddefnyddio eu mamiaith ym mhob agwedd o fywyd Brifysgol. 

Ers i fi cael fy enwebu rwyf wedi ceisio canfod teimladau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith er mwyn sicrhau fy mod yn ymwybodol o beth sydd yn bwysig i fyfyrwyr eraill fel fi. 

Byddaf yn ceisio gweithio gyda’r Brifysgol i sicrhau fod cyfleoedd i fyfyrwyr defnyddio eu hiaith yn sgil eu cyrsiau; ceisio sicrhau mynediad i gyrsiau Cymraeg i bob lefel o ddysgwyr Cymraeg – boed nhw yn fyfyrwyr neu staff; fod holl ohebiaeth yr Undeb Myfyrwyr yn cael ei rannu yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg a bod fwy o gyfleoedd i fyfyrwyr dod at ei gilydd mewn sefyllfaoedd anffurfiol i sgwrsio yn y Gymraeg a chymdeithasu gyda phwyslais ar estyn gwahoddiad cynnes i bawb sydd â diddordeb yn dysgu'r iaith. 

Braf, y byddai i ni gyd cael fwy o gyfleoedd i ddod at ein gilydd i gymdeithasu, i ddathlu ein hiaith ac i ddathlu diwylliant Cymru. 

Rydw i yn teimlo fy mod yn berffaith am y rôl oherwydd rwyf eisoes wedi fy ethol fel Llysgennad i’r Brifysgol ac fel Cynrychiolydd Myfyrwyr ar fy nghwrs felly rwy’n gwbl gyfforddus yn trafod materion sydd o bryder neu bwysigrwydd i unigolion neu grwpiau o fyfyrwyr a theimlaf fy mod yn gallu cyfathrebu hyn yn dda. 

Cofiwch - mewn undeb mae nerth a gyda’n gilydd gallwn wir wneud gwahaniaeth i brofiadau myfyrwyr Cymraeg yma ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Company number: 10111959
Registered Charity: 1168132